Bwa (cerddoriaeth)

Bwa
Mathmusical instrument part Edit this on Wikidata
Yn cynnwysfrog, screw, pad, stick, hair Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn cerddoriaeth, ffon wedi'i thensiynu gyda gwallt ynghlwm iddi ac sy'n cael ei symud dros ran o offeryn cerdd er mwyn creu swn yw bwa. Mae'r mwyafrif o fwâu yn cael eu defnyddio gydag offerynnau llinynol, fel y ffidil, er bod rhai bwâu yn cael eu defnyddio gyda llifiau cerddorol ac idioffonau eraill.

Mae bwa wedi'i wneud a brigyn siap arbennig a deunydd sy'n ffurfio rhuban sy'n cael ei ymestyn rhwng ei ddau ben, ac yn cael ei ddefnyddio i fwytho'r llinyn a chreu swn.  Mae gwahanol ddiwylliannau wedi mabwysiadu amrywiol ddyluniadau ar gyfer y bwa. Er enghaifft, mewn rhai bwâu dim ond un cordyn sy'n cael ei ymestyn rhwng y ddau ben. Yn nhraddodiad y Gorllewin, blew ceffyl sydd fel arfer yn cael ei ddefnyddio.


Developed by StudentB